P. J. O'Rourke

Dychanwr, newyddiadurwr, ac awdur gwleidyddol Americanaidd oedd Patrick Jake O'Rourke (14 Tachwedd 1947 – 15 Chwefror 2022). Yn ystod ei yrfa, bu'n brif olygydd y National Lampoon, prif gylchgrawn hiwmor yr Unol Daleithiau yn y 1970au, ac yn gyfrannwr rheolaidd i Rolling Stone. Ysgrifennodd hefyd ar gyfer llu o gyhoeddiadau eraill, gan gynnwys The Atlantic Monthly, The American Spectator, a The Weekly Standard. Cyhoeddwyd rhyw ugain o gyfrolau o'i ysgrifau, erthyglau, a chroniclau ar grwydr. Yn ei ieuenctid bu'n rhan o wrthddiwylliant y 1960au, ac yn fuan trodd at wleidyddiaeth yr adain dde. Pwysleisiai unigolyddiaeth yn ei ysgrifau, a byddai'n cael ei ystyried yn un o ladmeryddion y tueddiad rhyddewyllysiol yn y Blaid Weriniaethol. Bu'n aelod o'r Cato Institute, melin drafod ryddewyllysiol.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search